Mae Siop Uwchaled Cyf wedi ymgymryd â Siop a Swyddfa Bost hirsefydlog sydd wedi gwasanaethu cymuned Cerrigydrudion ac ardal Uwchaled am sawl degawd. Mae gan Cerrigydrudion hanes cyfoethog sy'n dyddio'n ôl i'r oes efydd a haearn. Dros y blynyddoedd mae'r pentref wedi bod yn gartref i lawer o siopau a busnesau gyda threftadaeth amaethyddol da. Mae'r delweddau ar y dudalen hon yn dangos cip olwg bach o hanes cyfoethog Cerrigydrudion. Mae Siop Uwchaled yn anelu at barhau â'r traddodiad, adfywio y Siop ar Swyddfa Bost, darparu gwasanaeth da gyda chroeso cynnes a stocio'r gorau mewn cynnyrch lleol pan ar gael. Dewch draw i weld dros eich hunain yr hyn sydd gennym i'w gynnig. Croesawn unrhyw fath o awgrymiadau a syniadau.
Siop Uwchaled Ltd has taken on a long standing Shop and Post Office that has served the community of Cerrigydrudion and Uwchaled for many decades.
Cerrigydrudion has a rich history that dates back to the Bronze and Iron Age.
Over the years the village has had many shops and businesses with a great farming heritage.
The images shown on this page provide a small glimpse of the rich history of Cerrigydrudion.
Siop Uwchaled aims to carry on the tradition revitalizing this long standing community shop & Post Office providing good service a warm welcome and stocking the best in local produce wherever we can.
Come and visit us and see for yourselves what we have to offer. We welcome any ideas and suggestions.